Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 6 Tachwedd 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.05 - 14.26 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC John Griffiths AC Elin Jones AC Darren Millar AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jeremy Sare, Sefydliad Angelus Harry Shapiro, DrugScope Professor Philip Routledge OBE, Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS) Josephine Smith, Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS) Dr Quentin Sandifer, Iechyd Cyhoeddus Cymru Joanne Davies, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Jamie Harris, SANDS Cymru Nicola John, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Julia Lewis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Jonathan Whelan, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Kathryn Peters, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Jackie Garland, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Andrea Lewis, Swansea Council Angela Cronin, Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr Richard Webb, Cyngor Sir Rhydychen |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Blaenraglen waith y Pwyllgor
1.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Trafododd y Pwyllgor y cylch gorchwyl a dull y Pwyllgor o gynnal yr ymchwiliad, a chytuno arno.
2 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle. Roedd Ann Jones yn dirprwyo.
3 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Maryon Stewart.
3.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
4 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 2
4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
4.2 Cytunodd Dr Quentin Sandifer i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor am y ffordd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu â chymunedau yng Nghymru ynghylch sylweddau seicoweithredol newydd.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at TICTAC i ofyn am eglurhad ynghylch a ydynt yn profi'r sylweddau a dderbynnir yn ogystal â darparu cofnod gweledol o beth yw'r cyffuriau.
5 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 3
5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
6 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 4
6.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Mark Child. Roedd Jackie Garland yn dirprwyo.
6.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
6.3 Cytunodd Richard Webb i ddarparu rhagor o wybodaeth am y pecyn cymorth sy'n cael ei ddatblygu gan swyddogion safonau masnach ar sut i fynd i'r afael â'r mater o sylweddau seicoweithredol newydd. Cytunodd hefyd i ddarparu barn ysgrifenedig ynghylch effaith Deddf Troseddau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phlismona 2014 ar ddull gweithredu swyddogion safonau masnach tuag at sylweddau seicoweithredol newydd.
7 Papurau i’w nodi
7.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 22 Hydref.
7.1 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Nodyn o'r ymweliadau a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014
7.1a Nododd y Pwyllgor y nodyn o'r ymweliadau a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014 mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").
7.2 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Nodyn o'r digwyddiadau grŵp ffocws a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014
7.2a Nododd y Pwyllgor y nodyn o'r grwpiau ffocws a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014 mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").
7.3 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Canlyniadau Arolwg y Pwyllgor
7.3a Nododd y Pwyllgor ganlyniadau arolwg y Pwyllgor mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").
7.4 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Ymatebion i'r ymgynghoriad
7.4a Nododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").
7.5 Y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd: Yn dilyn o 8 Hydref 2014
7.5a Nododd y Pwyllgor yr ymatebion gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Meddygol mewn perthynas â'r brîff ffeithiol ar y Papur Gwyn ar Iechyd Cyhoeddus.
7.6 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
7.6a Er nad yw hwn yn fater y mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei ystyried ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i hysbysu'r Pwyllgor Deisebau fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal darn o waith ar lywodraethiant byrddau iechyd yn GIG Cymru. Cytunodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i aros am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw cyn ystyried y mater ymhellach.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
8.1 Derbyniwyd y cynnig.
9 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad.